Mae hyn yn golygu y byddai angen i chi:
- Wybod am eich cymuned leol. Pa fath o bobl sy’n byw yno? Beth maen nhw’n ei wneud? Beth sydd ei angen arnyn nhw?
- Cyfathrebu â phobl yn rheolaidd ac yn aml. Bydd angen i chi wneud yn siŵr y gall pobl gwrdd â chi wyneb yn wyneb a sgwrsio ar gyfryngau cymdeithasol. Hefyd bydd angen i chi wneud yn siŵr bod pobl yn gwybod pwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud ar eu rhan. Ni fyddwch yn gallu helpu pawb yn y ffordd maen nhw’n dymuno ond byddai angen i chi fod yn onest ac yn agored am y penderfyniadau a wnewch chi a gwneud yn siŵr bod barn eich trigolion yn cael ei chlywed gan y cyngor.
- Ymgymryd â gwaith achos ar ran unigolion a grwpiau. Gallai hyn olygu datrys problem leol neu roi pobl mewn cysylltiad â’r cyngor neu sefydliadau eraill sy’n gallu helpu. Bydd angen i chi ddeall pa mor bell y bydd eich rôl yn caniatáu i chi helpu a phryd y dylai pobl gael eu cyfeirio at swyddogion cyngor.
Dyma'r cyfarfodydd y gallai fod yn ofynnol i chi eu mynychu:
Cyngor - Mae pob cynghorydd yn aelod o’r cyngor llawn. Mae’r cyngor llawn yn trafod ac yn penderfynu ar bolisi ar sail adroddiadau oddi wrth y pwyllgorau ac yn cytuno ar brif bolisïau’r cyngor a’i gyllideb. Yn nodweddiadol mae’r cyngor llawn yn cwrdd bob 4-6 wythnos.
Cabinet - Bydd nifer fach o uwch gynghorwyr yn ffurfio’r cabinet neu’r bwrdd gweithredol sy’n cael ei arwain gan arweinydd y cyngor. Mae’r cabinet fel llywodraeth y cyngor, sydd fel arfer yn cynnwys aelodau’r grŵp gwleidyddol sydd â’r mwyafrif o aelodau’r cyngor neu glymblaid. Mae’n gwneud y penderfyniadau am rediad y cyngor o ddydd i ddydd. Fel arfer mae pob aelod o'r cabinet yn cymryd cyfrifoldeb dros faes penodol sy’n cael ei alw’n bortffolio er enghraifft, addysg, yr amgylchedd neu wasanaethau cymdeithasol. Fel arfer bydd y cabinet yn cwrdd unwaith yr wythnos.
Trosolwg a Chraffu - Mae’r holl gynghorwyr eraill yn weithgar yng ngwaith trosolwg a chraffu ar berfformiad y cyngor a chyrff cyhoeddus eraill y mae eu gwaith yn effeithio ar gymunedau lleol. Mae trosolwg a chraffu yn hanfodol, am ei fod yn craffu ar y penderfyniadau mae’r cabinet yn eu gwneud ac effeithiolrwydd polisïau a pherfformiad y cyngor.
"Rwy’n gadeirydd craffu. Rydym ni newydd gwblhau adolygiad o’r drefn codi tâl am feysydd parcio. Nodau’r adolygiad oedd darparu gwasanaethau parcio sy’n briodol i’r amgylchiadau lleol, cefnogi bywiogrwydd canolfannau trefi a busnesau lleol, a rheoli parcio ceir mewn ffordd gost-effeithiol.
Casglom ni dystiolaeth o’r siambrau masnach, cynghorwyr â maes parcio o fewn eu ward, ymweld â phob maes parcio o fewn y Sir gan gasglu data. Roedd yr ymarfer craffu yn ddefnyddiol am iddo olygu bod safbwyntiau’r gymuned yn cael eu clywed ac ar y pryd roedd meysydd parcio o fewn y Sir yn derbyn llawer o sylw yn y cyfryngau. Gwnaeth y Pwyllgor 22 o argymhellion i’r Cabinet. Mae adroddiad sy’n cynnwys yr ymateb i bob argymhelliad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Cabinet. Cafodd nifer o’r argymhellion eu gweithredu ar unwaith tra bod swyddogion yn ymchwilio ymhellach i rai eraill."
Pwyllgorau Rheoleiddio - Mae llawer o gynghorwyr hefyd yn eistedd ar bwyllgorau sy’n delio â chynllunio a thrwyddedu. Mae hyn yn golygu y gallech chi fod yn gwneud penderfyniadau am adeiladau a datblygiad lleol neu dacsis a thafarnau ledled ardal y cyngor. Yn nodweddiadol bydd pwyllgor rheoleiddio yn cwrdd bob 2-4 wythnos.
Pwyllgorau Eraill - Bydd rhai cynghorwyr hefyd yn aelodau pwyllgorau eraill o bosibl, fel y pwyllgor archwilio a llywodraethu sy’n gwneud yn siŵr bod polisïau a phrosesau ariannol y Cyngor yn gywir neu’r pwyllgor safonau sy’n gwneud yn siŵr bod aelodau’n ymddwyn yn briodol (mwy am sut dylai aelodau ymddwyn yn nes ymlaen) neu bwyllgorau 'ad hoc' fel y rhai sy’n cael eu ffurfio i benodi staff newydd.
Cyrff Lleol Eraill - Mae cynghorwyr yn cael eu hethol i gyrff lleol allanol hefyd fel cyrff llywodraethu ysgolion, byrddau gwasanaethau lleol, a phartneriaethau lleol, naill ai fel cynrychiolwyr y cyngor neu fel ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr. Mae rhai cynghorwyr yn eistedd ar awdurdodau tân ac achub hefyd a, phan fydd cyngor yn cynnwys rhan o awdurdod parc cenedlaethol, parc cenedlaethol.
Os ydych chi’n aelod o blaid wleidyddol bydd disgwyl i chi fynychu cyfarfodydd grŵp gwleidyddol, hyfforddiant y blaid a digwyddiadau eraill hefyd.
Disgwylir i gynghorwyr fynychu holl gyfarfodydd y pwyllgorau neu’r grwpiau maen nhw’n cael eu penodi iddyn nhw, yn ogystal â threulio amser yn eu cymunedau.
Pan fyddwch chi’n mynychu cyfarfodydd cyngor, mae rhai rheolau y bydd angen i chi eu deall. Mae’r rhain yn cael eu nodi yng nghyfansoddiad y cyngor. Dyma’r ddogfen sy’n pennu sut mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, beth yw cyfrifoldebau pob pwyllgor a sut dylai cyfarfodydd gael eu cynnal.
Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd cyngor yn agored i’r cyhoedd, ac mae llawer o gyfarfodydd yn cael eu darlledu ar y Rhyngrwyd. Ond ar brydiau, mae angen i gyfarfodydd neu rannau o gyfarfodydd gael eu cynnal yn breifat os bydd gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif yn cael ei thrafod.
Mae gan bob pwyllgor gadeirydd. Mae’r cynghorwyr hyn yn gwneud yn siŵr bod y busnes yn cael ei wneud a bod rheolau’r cyfarfod yn cael eu dilyn. Hefyd mae gan bwyllgorau swyddogion sy’n cefnogi eu gwaith drwy er enghraifft ymgymryd ag ymchwil a chymryd cofnodion.
Disgwylir i bob cynghorydd ymddwyn yn dda. Mae angen i’r cyhoedd deimlo’n hyderus eich bod yn cynnal y safonau mae ganddyn nhw hawl i’w disgwyl oddi wrthych.
Mae cynghorwyr yn rhwymo i Gôd Ymddygiad Statudol. Mae’r côd hwn yn gymwys i gynghorwyr pryd bynnag y byddant yn gweithredu neu’n ymddangos eu bod yn gweithredu fel cynghorydd.
Yn ôl y Côd, mae angen amlwg i gynghorwyr ymddwyn yn y ffyrdd a amlinellir isod:
- Ymddwyn er budd y cyhoedd yn unig – nid o'ch plaid chi eich hunan na neb arall sy’n agos atoch
- Bod yn onest a datgan unrhyw fuddiannau sydd gennych chi. Er enghraifft os bydd penderfyniad sy’n cael ei wneud yn effeithio ar eich busnes chi byddai angen i chi ei ddatgan ac efallai peidio â chymryd rhan mewn unrhyw bleidlais
- Ymddwyn gydag uniondeb – peidio â chael eich dylanwadu gan unrhyw bobl neu gyrff eraill er eu budd nhw
- Ymddwyn o fewn y gyfraith
- Defnyddio adnoddau’r cyngor yn gyfreithlon ac yn synhwyrol
- Gwneud penderfyniadau yn ôl eu rhinweddau bob tro, gan ddefnyddio’r holl wybodaeth a thystiolaeth sydd ar gael
- Dangos parch tuag at bobl eraill bob amser ni waeth pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei gredu
- Bod mor agored â phosibl am eich gweithredoedd chi a gweithredoedd y cyngor
- Bod yn barod i fod yn agored i graffu gan y cyhoedd am yr hyn a wnewch chi
- Arwain eraill drwy eich esiampl a bod yn fodel rôl dros y cyngor i’r cyhoedd a swyddogion.
Gall y sawl sy’n torri’r Côd gael eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gall cosbau gynnwys ymddiheuriadau ffurfiol, hyfforddiant neu hyd yn oed eich atal dros dro neu eich datgymhwyso rhag dal y swydd. Mae disgwyl i gynghorwyr gytuno’n ffurfiol i’r Côd wrth lofnodi eu bod yn derbyn y swydd wedi iddyn nhw gael eu hethol. Gallwch chi weld testun llawn y Côd Ymddygiad enghreifftiol yma.