BYDDWCH YN GYNGHORYDD.
SICRHEWCH MAI CHI YW'R NEWID

Mae Cynghorwyr yn cael eu hethol i gynrychioli eu cymunedau i wneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus lleol.

Mae’n bwysig bod cynghorwyr fel y bobl sy’n eu hethol – rydym angen mwy o amrywiaeth o gynghorwyr – rydym angen mwy o fenywod, mwy o bobl ifanc, mwy o bobl Ddu Asiaidd a Lleiafrif Ethnig, mwy o bobl anabl a mwy o bobl LHDTC+ i sefyll.

Mae pob cyngor wedi llofnodi addewidion Cyngor ac wedi ymrwymo i annog a chefnogi pobl amrywiol i sefyll. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno diwygiadau i’w gwneud yn haws sefyll a’i gwneud yn haws bod yn gynghorydd.

Bellach, mae’n llawer haws sefyll fel cynghorydd, mae tâl a chefnogaeth i gynghorwyr wedi gwella ac mae’n haws cyfrannu at fusnes y cyngor drwy gyfarfodydd o bell dros Teams neu Zoom.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth a bod yn gynghorydd, gallwch ddod o hyd i gyngor a gwybodaeth ar sut i sefyll.  Bydd etholiadau lleol nesaf ar draws Cymru yn cael eu cynnal yn 2027.

Byddwch yn Gynghorydd. Byddwch y Newid!

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)