Mae cynghorwyr, ar gyfartaledd, yn ymrwymo amser cyfwerth â thri diwrnod yr wythnos i’r rôl. Mae hyn yn gallu bod yn heriol ond mae llawer o gynghorwyr yn llwyddo i’w wneud. Nid yw holl ymrwymiadau'r cyngor yn ystod y diwrnod gwaith; maen nhw’n gallu bod gyda’r hwyr neu ar benwythnosau hefyd. Mae o gymorth os ydy’ch cyflogwr yn gallu rhoi amser i ffwrdd i chi ar gyfer dyletswyddau cyngor, fel mynychu cyfarfodydd. Mae’n syniad da siarad â nhw am hyn cyn sefyll. Mae’r sgiliau a ddysgwch chi fel cynghorydd a’ch cysylltiadau â’r gymuned yn gallu bod o fudd i’ch cyflogwr.
Mae rhai rolau, fel arweinwyr ac aelodau cabinet, yn cael eu hystyried yn rhai amser llawn ar y cyfan, ond mae rhai aelodau yn llwyddo i gynnal eu swydd mewn man arall.
Bydd cynghorau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i ddarparu ar eich cyfer chi, fel amrywio amserau cyfarfodydd er mwyn i chi gael eu mynychu. Gallwch chi fod yn glir iawn gyda’ch etholwyr am yr adegau y byddech chi’n gallu cwrdd â nhw, derbyn eu galwadau ffôn ac ymateb i e-bost fel nad yw'r cyfan yn eich llethu. Mae pob cyngor yn cynnal cyfarfodydd o bell neu hybrid ar hyn o bryd dros Teams neu Zoom, mae hyn yn golygu y gall cynghorwyr fynychu cyfarfodydd o gartref neu’r gwaith, sy’n lleihau teithio ac yn cynnig llawer mwy o hyblygrwydd.