Cynghorydd Sara Jones
Mae Sara yn Gadeirydd Clwb Rasio Sgïo Pont-y-pŵl. Hi yw pencampwraig sgïo meistri awyr agored Cymru, ac enillodd gyfres meistri awyr agored Prydain yn 2019. Mae’n fam i ddau o blant ac yn gweithio yn y diwydiant manwerthu. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.
“Yn 2012, fe benderfynais i ymgeisio am swydd gyhoeddus; rydw i’n caru’r ardal rydw i’n byw ynddi (Sir Fynwy) ac roeddwn i eisiau gweld mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Fel mam i ddau o blant ifanc, yn cydbwyso gyrfa a rolau cyfarwyddwr anweithredol, mae'n bendant wedi bod yn her! Ond mae wedi rhoi boddhad mawr i mi. Rydw i wedi cadeirio pwyllgor dethol Economi a Datblygiad ein cyngor, ac yn 2017 cefais fy mhenodi’n Aelod Cabinet Cyfiawnder Cymdeithasol a Datblygiad Cymunedol. Rydw i wedi cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd lleol yn ogystal â datblygu ein polisïau strategol ar draws y sir, fydd yn cael effaith wirioneddol ar fywydau ein dinasyddion. Rydw i’n teimlo’n hynod ffodus o fod wedi cael cyfle i fod yn Gynghorydd Sir."
Sara yw Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Economi yng Nghyngor Sir Fynwy.