Cynghorydd Kathryn McCaffer

Mae Kathryn yn chwaraewr gemau. Mae’n fam i ddau ac yn swyddog gweithredol gwerthu eiddo newydd rhan amser. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

"Roeddwn i eisiau ymgeisio i fod yn gynghorydd am sawl rheswm. Roeddwn i'n bryderus iawn am y byd yn gyffredinol, ond hefyd yn gwybod y byddai yna derfyn ar faint o wahaniaeth y gallwn i ei wneud. Yn lleol, roeddwn i’n gwybod fod gen i gyfle i gael fy nghlywed. Hefyd, roeddwn i’n teimlo fod merched yn cael eu tangynrychioli’n ofnadwy ac roeddwn i eisiau i’n barn a’n pryderon ni gael eu cynrychioli. Mae bod yn gynghorydd wedi golygu y bu’n rhaid i mi drechu ambell i gred eithaf dwfn gan y cyhoedd o ran yr hyn rydym ni’n ei wneud a sut rydym ni’n ei wneud o. Fe wyddwn i fod gen i lawer i'w ddysgu, ond pan ydych chi'n gwneud newidiadau sy'n effeithio ar bobl er gwell, mae'n rhoi boddhad mawr i chi. Rydw i’n mwynhau cyfarfod pobl a gallu helpu’r rhai sydd angen cymorth. Mae bod yn gynghorydd wedi bod yn brofiad anhygoel. Rydych chi’n dysgu cymaint ac yn gallu pasio hynny ymlaen i eraill. Rydw i’n credu’n gryf y gall unrhyw un fod yn gynghorydd, ac fe fyddwn yn argymell i unrhyw un fynd amdani."

Mae Kathryn yn Aelod Cabinet Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)