Cynghorydd Dhanisha Patel

Mae Dhanisha yn blentyn canol, sgïwr ac wrth ei bodd yn teithio. Mae hefyd yn gynghorydd lleol.

“Deuthum yn gynghorydd pan ofynnwyd i mi sefyll. Roeddwn yn chwilfrydig am sut mae gwneud penderfyniadau lleol yn gweithio, a pha un a oedd unrhyw wirionedd yn y sibrydion fy mod yn byw yn y “Cwm coll”. Nid oeddwn yn siŵr a oedd yn mynd i fod yn llwyddiannus, ond roeddwn yn teimlo fod gennyf rywbeth i’w gynnig ac nad oedd llais fy nghymuned yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Roeddwn yn meddwl os byddwn yn rhoi fy hun ymlaen, ond ddim yn cael fy ethol, yna o leiaf gallwn ddweud fy mod wedi rhoi cynnig arni. Cefais fy ethol i ddechrau mewn is-etholiad (etholiad sy’n cael ei gynnal hanner ffordd drwy’r tymor 5 mlynedd) ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Mae yna sawl rôl mae cynghorydd yn ei chwarae, actifydd cymunedol, llais lleol wrth wneud penderfyniadau, hyrwyddwr cymunedol, cyfryngwr, trafodwr, datryswr problemau ond fy hoff rôl yw cyfrinachwr. Bod yr unigolyn hwnnw mae preswylwyr yn teimlo’n hyderus yn bod yn agored gyda nhw, sicrwydd nad ydynt eu hunain a’u grymuso i gael clywed eu llais. Os ydych yn chwilfrydig am sefyll, byddwn yn dweud wrthych i fynd amdani, mae’n bosibl y byddwch yn mwynhau gymaint â mi. Dyma’r swydd oriau i mi ei chael erioed."

Mae Dhanisha yn Aelod Cabinet Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol.

Datblygwyd y wefan gan Data Cymru, sydd hefyd yn ei gynnal, ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

© 2024 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)